Cyfarwyddiadau
Gallwch ddefnyddio'r system ymgynghori ar-lein i ddarllen dogfennau a gyhoeddwyd gan y cyngor ac i wneud sylwadau yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus neu weld sylwadau a wnaed gan eraill ar opsiwn, mater neu bolisi safle penodol.
Cofrestru, mewngofnodi neu gofyn am gyfrinair newydd
Defnyddiwch y dolenni yn y bar diogelwch sy'n rhedeg ar draws brig y wefan hon. Mae ganddo gefndir du ac mae'r dolenni mewn gwyn yn y gornel dde uchaf.
Dim ond os ydych am wneud sylwadau y mae angen i chi gofrestru a mewngofnodi, gallwch weld sylwadau a wnaed heb gofrestru na mewngofnodi.
Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair
Defnyddiwch y ffurflen gofyn am gyfrinair. Gallwch ei chyrraedd drwy glicio ar y ddolen 'Nid wyf yn gallu cofio fy nghyfrinair' ar y ffurflen mewngofnodi.
Rhowch y cyfeiriad e-bost y gwnaethoch gofrestru yn y blwch, yna gwiriwch eich mewnflwch am gyfarwyddiadau pellach.
Os nad ydych yn derbyn e-bost gwiriwch eich ffolder sbam ond os nad oes gennym gofnod ohonoch ni fyddwn yn anfon e-bost atoch.
Gwneud sylwadau
Bydd dogfennau cyfredol sy'n agored i ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu rhestru ar y dudalen gartref. Dewiswch un o'r dogfennau ac yna o'r dudalen gynnwys, cliciwch ar y bennod, safle, mater neu bolisi y mae gennych ddiddordeb ynddo.
I wneud sylwadau, cliciwch ar y botwm sylwadau Sylw wrth ymyl y mater safle neu'r polisi y mae gennych ddiddordeb ynddo a chwblhewch y ffurflen sylwadau ar-lein.
Gweld sylwadau
Gallwch weld sylwadau heb gofrestru na mewngofnodi.
Dewiswch un o’r dogfennau o dudalen gartref y Cynllun Lleol ac yna o’r dudalen gynnwys, cliciwch ar y bennod, safle, mater neu bolisi y mae gennych ddiddordeb ynddo.
I weld sylwadau, cliciwch ar yr eicon chwyddwydr Gweld ymatebion wrth ymyl y safle, mater neu bolisi y mae gennych ddiddordeb ynddo a bydd yr holl sylwadau cyhoeddedig yn cael eu rhestru.
Dangosir nifer y sylwadau mewn cromfachau wrth ymyl yr eiconau. Sylwch fod sylwadau a dderbynnir yn cael eu prosesu gan staff gweinyddol cyn eu cyhoeddi felly ni fydd sylwadau sydd newydd eu postio yn ymddangos yma ar unwaith.
Gweld mapiau
Lle mae map rhyngweithiol o safle neu faes polisi, bydd eicon wrth ymyl y disgrifiad neu’r polisi ar gyfer y safle. I weld y map, cliciwch ar yr eicon.