Cofrestr safleoedd posib

Yn dod i ben ar 23 Mehefin 2025 (13 diwrnod ar ôl)

1. Cyfarwyddiadau

Mae'r ffurflen hon ar gael yn electronig ar-lein hefyd.

Mae'r cyngor yn annog cynigwyr safle i gwblhau'r ffurflen cyflwyniad safle posib ar-lein. Mae'r ffurflen ar-lein yn galluogi cynigwyr safle i gynhyrchu a chyflwyno map, cael gwybodaeth am gyfyngiadau, gweld nodiadau cyfarwyddyd ac uwchlwytho dogfennaeth gefnogi. 

Caiff y wybodaeth a gyflwynwyd ar y ffurflen safle posib ei defnyddio gan yr awdurdod cynllunio lleol (ACLl) i asesu pob safle posib yn erbyn methodoleg asesu'r safleoedd posib. Nid yw cyflwyno safle posib yn rhoi unrhyw warant y bydd y safle yn cael ei ddynodi yn y Cynllun Datblygu Lleol Ynys Môn. 

Dylai cynigwyr safle gyfeirio at y 'Nodiadau cyfarwyddyd' a 'Methodoleg asesu'r safle posib' wrth gyflwyno eu safle posib. Mae'r ddwy ddogfen ar gael yn electronig ac mae copïau papur ar gael i'w gweld yn Cyswllt Môn ym mhrif adeilad y Cyngor, y Ganolfan Fusnes a phob llyfrgell ar yr Ynys.

Mae'r ffurflen safle posib yn gosod allan yr holl wybodaeth sy'n ofynnol er mwyn i'r ACLl allu ymgymryd ag asesiad cadarn. Felly mae'n bwysig bod cynigwyr safle yn cwblhau'r holl adrannau perthnasol ar y ffurflen. Os nad yw cynigion yn cael eu gwneud drwy'r ffurflen electronig, bydd angen darparu map o'r safle posib (gweler rhan 3) er mwyn i'r cyflwyniad gael ei dderbyn. 

Bydd y  'galw am safleoedd posib' yn agor ar y 12 Mai 2025 am gyfnod o 6 wythnos. Mae angen i ffurflenni safle posib sydd wedi eu cwblhau gael eu derbyn gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol erbyn 23 Mehefin 2025.

Sut fyddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth

Dangos mwy

Ar 25 Mai 2018 daeth Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) i rym, gan osod cyfyngiadau ar sut all sefydliadau gadw a defnyddio data personal a diffinio hawliau mewn perthynas â'r data hwnnw. Caiff unrhyw wybodaeth bersonol sy'n cael ei datgelu i ni ei phrosesu yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd .  

Bydd yr holl safleoedd posib ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio ar ffurf cofrestr safle posib ac felly ni ellir eu trin yn gyfrinachol. Bydd manylion am y safleoedd posib hefyd yn cael eu dosbarthu i randdeiliaid mewnol ac allanol i'w galluogi i gael eu hasesu fel rhan o broses Cynllun Datblygu Lleol Ynys Môn. Ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei gynnwys fel rhan o hyn. 

Bydd manylion cyswllt yr holl gynigwyr safle a'u hasiantaethau (ble y bo'n berthnasol) yn cael eu hychwanegu at bas-ddata CDLl Ynys Môn. Bydd y cyngor yn gohebu a'r rhanddeiliaid drwy e-bost oni nodir fel arall. 

Mae'r holl ffurflenni a dogfennau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd iaith ddewisol y cyflwyniad yn cael ei thrin fel iaith ddewisol cyfathrebu. 

Gwybodaeth bwysig

Bwriedir i'r gofynion uchod fod yn gymesur â graddfa'r datblygiad a gynigir.

Cyfrifoldeb y cynigydd safle yw ymgysylltu'n gadarnhaol a phroses baratoi CDLl Ynys Môn ym mhob cam, gan weithio gyda'r cyngor i sicrhau fod y wybodaeth berthnasol ar gael yn ystod y cam priodol. 

Cyfrifoldeb y cynigydd safle yw ymgymryd â gwaith technegol perthnasol i gefnogi cynhwysiant y safle yn y cynllun, gan gynnwys costau. Na ellir adennill unrhyw gostau posibl gan yr ACLl. 

Wrth gyflwyno safleoedd posib, dylai cynigwyr safle posib gynnwys gymaint o wybodaeth cefnogol a phosib . Pan fo tystiolaeth sy'n benodol i safle yn cael ei baratoi, dylai'r cyngor gael eu hysbysu a'u cynghori ynghylch a phryd y bydd ar gael i gynorthwyo yn yr asesiad o'r safle. Rhaid i unrhyw dystiolaeth gefnogol ychwanegol gael ei gyflwyno i'r cyngor erbyn 23/06/2025.

Ffurflen safle posib Cyflwyno eich safle posib

Am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r system ac i wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig